Bydd y modiwl e-ddysgu hwn yn rhoi i chi gyflwyniad i ymwybyddiaeth am fyddardod ac yn eich helpu chi sicrhau bod eich sesiynau yn hygyrch i bobl ifanc byddar. Bydd hefyd yn amlinellu rhai pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth gyflwyno cyngor gyrfaoedd i bobl ifanc byddar.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y modiwl e-ddysgu hwn byddwch chi’n gallu:
- Disgrifio beth a olygir gan fyddardod a sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl ifanc byddar
- Esbonio sut i ymestyn allan at blant a phobl ifanc byddar a’u hannog nhw i gael mynediad at gyngor gyrfaoedd
- Adnabod ystyriaethau allweddol wrth gyflwyno cyngor gyrfaoedd i bobl ifanc byddar
Ar gyfer pwy ydy’r e-ddysgu hwn?
Mae’r modiwl e-ddysgu hwn wedi cael ei greu yn benodol ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd yng Nghymru.